#

Y Pwyllgor Deisebau | 1 Mai 2018
 Petitions Committee | 1 May 2018
 
 
 ,Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig 

 

 

 

 


Papur briffio gan y Gwasanaeth Ymchwil:

Rhif y ddeiseb: P-05-808

Teitl y ddeiseb: Ni ddylai Cymraeg fod yn orfodol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig

Testun y ddeiseb: Fel llawer o blant eraill yn y Deyrnas Unedig, mae fy mab yn dioddef o dyslecsia. Mae ysgrifennu a darllen Saesneg yn her ddyddiol felly dychmygwch orfod dysgu darllen ac ysgrifennu iaith arall na fyddwch byth yn ei defnyddio. Dyma beth mae fy mab yn gorfod ei wneud bob dydd gan ein bod yn byw yng Nghymru. Rwyf wedi ceisio ei dynnu o'r gwersi Cymraeg fel y gall gael gwersi Saesneg ychwanegol ond mae'n rhwymedigaeth gyfreithiol i'r ysgol ddysgu Cymraeg yng Nghymru. Mae'n her ddyddiol i blant â dyslecsia sy'n byw yng Nghymru. Dylai Cymraeg fod yn ddewisol i blant â dyslecsia ac anghenion arbennig, ac nid yn orfodol.

Y cefndir

Mae Cymraeg (naill ai iaith gyntaf neu ail iaith yn dibynnu a yw ysgol yn un cyfrwng Cymraeg ai peidio) yn bwnc statudol yn y cwricwlwm cenedlaethol yng Nghymru.  Daeth yn bwnc gorfodol i bob disgybl yng Nghyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 ym 1990 ac yng Nghyfnod Allweddol 4 ym 1999.  Ar ôl cyhoeddi adolygiad yr Athro Graham Donaldson o'r cwricwlwm yng Nghymru, Dyfodol Llwyddiannus (Chwefror 2015), cadarnhaodd Huw Lewis, y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau ar y pryd (Hydref 2015) ei fod wedi derbyn argymhellion yr Athro Donaldson ar y cwricwlwm newydd i Gymru y bydd Cymraeg yn parhau i fod yn orfodol ym mhob ysgol hyd at 16 oed.   Mae Gorchymyn Cymraeg Ail Iaith y cwricwlwm cenedlaethol cyfredol yn datgan:

Dylai dysgwyr o bob gallu gael mynediad i asesu ac achredu priodol.

Er bod Cymraeg yn bwnc gorfodol yn y cwricwlwm cenedlaethol, nid yw'n orfodol cofrestru dysgwyr i sefyll arholiad TGAU neu gymhwyster arall.   Mater i ysgolion yw penderfynu ar gymhwyster penodol ac fe'i gwneir ar lefel leol.

Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Cymraeg mewn Addysg: Cynllun Gweithredu 2017-21

Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes Y Gymraeg mewn addysg: Cynllun gweithredu 2017-21 sy'n nodi cyfeiriad Llywodraeth Cymru ar gyfer datblygu addysg orfodol cyfrwng Cymraeg ac iaith Gymraeg dros y pedair blynedd nesaf.  Mae hyn yn ailadrodd na fydd statws y Gymraeg fel pwnc gorfodol yn newid ac:

yn y dyfodol, rhoddir mwy o bwys ar y Gymraeg fel pwnc ac fel cyfrwng i addysgu a dysgu.

Ochr yn ochr â'r Cynllun Gweithredu, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru atebion i gwestiynau cyffredinol. Dywed:

Beth am ddysgwyr sydd ag anghenion dysgu ychwanegol?

Rhaid inni sicrhau y gall pob dysgwr gael mynediad cyfartal i addysg cyfrwng Cymraeg a phrofi'r cyfleoedd gorau i ddatblygu eu sgiliau iaith.

Mae tegwch yn golygu bod angen inni sicrhau bod y system, ar lefel ysgolion, ar lefel leol ac ar lefel genedlaethol, yn ystyried yr heriau unigryw sy'n wynebu unigolion neu grwpiau o ddysgwyr, ac yn ymateb i’r heriau hynny.

Anghenion dysgu ychwanegol

Mae Llywodraeth Cymru yn gwneud newidiadau i'r ddarpariaeth ar gyfer dysgwyr ag anghenion dysgu ychwanegol.  Bydd Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys Addysg (Cymru) 2018 yn disodli'r Fframwaith Anghenion Addysgol Arbennig gydag un newydd yn seiliedig ar Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) y disgwylir iddo gael ei weithredu o 2020.  Hyd nes y caiff ei weithredu, mae'r trefniadau presennol ar gyfer nodi a darparu ar gyfer Anghenion Addysgol Arbennig yn parhau i fod ar waith fel y nodwyd yn Neddf Addysg 1996 ac yn fwy manwl yn y Côd Ymarfer Anghenion Addysgol Arbennig (a gyflwynwyd yn 2002 a'i ddiweddaru yn 2004).  Mae’n rhaid i  awdurdodau lleol, ysgolion, sefydliadau blynyddoedd cynnar a'r rhai sy'n eu helpu, gan gynnwys iechyd a gwasanaethau cymdeithasol roi sylw i’r Cod.

Mae'r Cod hefyd yn nodi'r egwyddor sylfaenol:

dylid cynnig cyfle llawn i blant sydd ag anghenion addysgol arbennig i gael addysg eang, gytbwys a pherthnasol, wedi’i seilio ar y Cwricwlwm Cenedlaethol

Mae hefyd yn nodi:

 

Mae'n ofynnol i bob ysgol gynllunio cwricwlwm sy'n cynnwys darpariaeth ar gyfer pynciau’r Cwricwlwm Cenedlaethol sy'n statudol yng nghyfnodau allweddol 3 a 4. Dylai athrawon gyflwyno rhaglenni astudio'r Cwricwlwm Cenedlaethol mewn ffyrdd sy'n cwrdd ag anghenion dysgu neilltuol eu disgyblion. Caniateir rhai amrywiadau yn y gofynion yng nghyfnod allweddol 4 trwy ddefnyddio'r rheoliadau o dan Adran 363 o Ddeddf Addysg 1996 sy'n caniatáu datgymhwyso pynciau sy’n rhan o’r Cwricwlwm Cenedlaethol at ddibenion penodol.

Pan gyhoeddodd Llywodraeth Cymru y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a Thribiwnlys, cyhoeddodd hefyd God Ymarfer Anghenion Dysgu Ychwanegol drafft (Chwefror 2017) nad oedd yn destun ymgynghoriad ei hun, ond fe'i bwriadwyd fel cymorth i ddeall y Bil.  Roedd y Cod drafft yn cynnwys yr egwyddor gyffredinol bod yn rhaid i ddysgwyr dderbyn cymorth i gyfranogi mor llawn â phosibl mewn addysg brif ffrwd a’r Cwricwlwm Cenedlaethol pan fydd hynny’n ymarferol.

Camau gweithredu Cynulliad Cenedlaethol Cymru

Trafododd y Pwyllgor ddeiseb debyg (P05-760) a oedd yn galw am atal TGAU Cymraeg Gorfodol, i bawb, yn hytrach nag i rai grwpiau o ddysgwyr.  Ar yr adeg honno, roedd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg yn bendant bod astudio Cymraeg yn parhau i fod yn elfen allweddol yn y cwricwlwm yng Nghymru hyd at 16 oed ac nid oedd unrhyw gynlluniau i newid y sefyllfa hon. Dywedodd y dylai fod digon o gyfleoedd i bob dysgwr ddatblygu ei sgiliau craidd wrth ddysgu Cymraeg, a dylai dysgu Cymraeg ehangu’r cwricwlwm yn hytrach na’i gulhau.  Felly, cafodd y ddeiseb ei chau.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.